Cwcis
Darn bach o ddata sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur, eich tabled neu eich ffôn symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwci. Mae angen cwcis ar y rhan fwyaf o wefannau i weithio'n iawn.
Sut defnyddir cwcis yn y gwasanaeth hwn
Rydyn ni’n defnyddio cwcis er mwyn:
- mesur sut rydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth fel y gellir ei wella
- cofio'r hysbysiadau rydych wedi'u gweld fel na fyddwch yn eu gweld eto
- storio’r atebion a roddwch dros dro
Darganfod mwy am sut i reoli cwcis.
Cwcis a ddefnyddir i fesur faint o bobl sy’n defnyddio’r wefan
Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth hwn. Rydym yn gwneud hyn i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr ac i'n helpu i wneud gwelliannau, er enghraifft gwella’r cyfleuster chwilio.
Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:
- y tudalennau yr ydych yn ymweld â hwy
- faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar bob tudalen
- sut y daethoch o hyd i’r gwasanaeth
- yr hyn rydych chi'n clicio arno wrth ddefnyddio'r gwasanaeth
Rydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu ein data dadansoddi. Gallwch ddarganfod mwy am sut mae Google yn defnyddio’r wybodaeth hon yn eu Polisi Preifatrwydd.
Gallwch optio allan o Google Analytics os nad ydych eisiau i Google gael mynediad at eich gwybodaeth.
| Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
|---|---|---|
| _ga | Mae’n ein helpu i gyfrif faint o bobl sy'n ymweld â'r gwasanaeth drwy olrhain os ydych wedi ymweld o'r blaen | 2 oed |
| _gat | Rheoli faint o bobl sy’n ymweld â’r dudalen | 10 munud |
| _gid | Gadael i'r gwasanaeth wybod pwy ydych chi | 24 awr |
Cwcis a ddefnyddir i fesur perfformiad y gwasanaeth
Rydym yn defnyddio Llwyfan Gwybodaeth Meddalwedd Dynatrace i ddarparu Gwasanaeth Monitro Perfformiad i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio gwasanaethau GLlTEF. Rydym yn gwneud hyn i fonitro gwasanaethau GLlTEF er mwyn datrys materion o fewn ein gwasanaethau yn ogystal â chasglu data ar sut y gellir gwella ein gwasanaethau. Mae GLlTEF yn cadw gwybodaeth am y canlynol:
- berfformiad y wefan
- y defnydd a wneir o'r wefan
- ymddygiad defnyddwyr
Cyflwynir yr wybodaeth angenrheidiol yn y Gwasanaeth Monitro Perfformiad Gwasanaeth at y dibenion a nodwyd uchod. Nid ydym yn defnyddio nac yn rhannu'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall. Nid ydym yn caniatáu i Dynatrace ddefnyddio na rhannu'r wybodaeth at unrhyw ddibenion eraill.
| Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
|---|---|---|
| dtCookie | Olrhain ymweliad ar draws ceisiadau amryfal | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| dtLatC | Mesur natur gudd y gweinydd er mwyn monitro perfformiad y gwasanaeth | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| dtPC | Er mwyn canfod pwyntiau terfyn priodol ar gyfer trosglwyddo tywysydd; mae’n cynnwys rhif adnabod y sesiwn at ddibenion cydberthyniad | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| dtSa | Storfa gyfryngol ar gyfer gweithrediadau rhychwantu tudalennau | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| rxVisitor | Rhif adnabod ymwelydd er mwyn cydberthnasu sesiynau | 1 flwyddyn |
| rxvt | Terfyn amser y sesiwn | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
Cwcis hanfodol
Mae’r cwcis hanfodol hyn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy diogel. Mae angen iddynt fod ymlaen drwy’r amser.
| Enw’r cwci | Pwrpas y cwci | Darfod ymhen |
|---|---|---|
| Idam.Session | Cadw golwg ar eich cyflwr mewngofnodi | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| Idam.AuthId | Cadw golwg ar eich cyflwr mewngofnodi wrth ddefnyddio dilysu aml-ffactor | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| Idam.Request | Cadw gwybodaeth am geisiadau | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| Idam.Register | Cadw gwybodaeth gofrestru | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| Idam.Reset | Dal gwybodaeth ailosod | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| Idam.UI | Yn dal dyfais adnabod cymhwysiad Rhyngwyneb Defnyddwyr | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| i18next | Storio eich dewisiadau Iaith | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| connect.sid | Adnabod sesiwn | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| x-csrf-id | Mae’r cwci hwn yn helpu i gadarnhau bod gweithredoedd ar y wefan yn dod gennych chi ac nid gan rywun arall. | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |
| x-csrf-token | Mae'r cwci hwn yn cadw'ch data yn ddiogel trwy helpu i rwystro ceisiadau ffug neu niweidiol. | Pan fydd sesiynau’n dod i ben |