Skip to main content

Mae hwn yn wasanaeth newydd. Helpwch ni i'w wella a rhoi eich adborth (yn agor mewn tab newydd) .

Yn ôl

Datganiad hygyrchedd ar gyfer HMCTS Access

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i HMCTS Access sy’n caniatau defnyddiwr i fewngofnodi’n ddiogel i wasanaethau Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd, sydd ar gael yn https://hmcts-access.service.gov.uk/. Mae’n rhan o wefan ehangach GOV.UK sydd â’i datganiad hygyrchedd ar wahân ei hun. Nid yw datganiad y gwasanaeth hwn yn cwmpasu gwasanaethau unigol eraill GLlTEF.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF sy’n gyfrifol am y wefan hon, Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu’r ddyfais
  • gwneud y testun hyd at 400% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Gallwch gael cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r daith yn gwbl hygyrch. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys dolenni i wefannau allanol er mwyn darparu Mewngofnodi Unwaith i staff a defnyddwyr barnwrol GLlTEF. Er ein bod yn anelu at ddarparu dolenni at wasanaethau hygyrch a dibynadwy, ni allwn warantu hygyrchedd unrhyw wefannau allanol, ac rydym yn ymwybodol o’r problemau canlynol:

  • Mae sgriniau SSO (mewngofnodi unwaith) yn brin o destun amgen disgrifiadol ar logos sefydliadau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin
  • Mae gan sgrin eJudiciary (mewngofnodi unwaith) ddelwedd gefndir gymhleth sydd heb destun amgen disgrifiadol ac yn cynnwys delwedd o destun na ellir newid ei faint

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille; gallwch gysylltu â ni. Defnyddiwch y manylion ar gyfer y gwasanaeth mae arnoch angen.

Mabwysiadu

Gwasanaeth Iawndal Sifil

Ysgariad

Cyfraith Gyhoeddus – Teulu

Cyfraith Breifat – Teulu

Rhwymedi Ariannol

Y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Digolledu am Anafiadau Troseddol)

Siambr Mewnfudo a Lloches

Hawliadau Arian Sifil Ar-lein

Profiant

Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.

Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod neu dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer llysoedd a thribiwnlysoedd.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y materion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn cydymffurfio am y rhesymau canlynol

Cynnwys Trydydd Parti

Mae’r dolenni Mewngofnodi Unwaith (SSO) ar gyfer staff GLlTEF a defnyddwyr barnwrol yn eich cyfeirio at dudalennau trydydd parti nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • Mae logos sefydliadau ar sgriniau SSO (mewngofnodi unwaith) yn brin o destun amgen disgrifiadol, felly efallai na fydd defnyddwyr darllenwyr sgrin yn deall pa sefydliad y maent yn mewngofnodi iddo neu p’un a ydynt ar y dudalen mewngofnodi gywir. Nid yw hyn yn diwallu maen prawf 2.2 llwyddiant 1.1.1 WCAG (Cynnwys Di-destun).
  • Mae cefndir sgrin SSO (mewngofnodi unwaith) eJudiciary yn defnyddio delwedd gymhleth o destun sydd heb destun amgen disgrifiadol, felly efallai na fydd defnyddwyr darllenwyr sgrin a defnyddwyr chwyddo sgrin sydd angen newid maint testun yn gallu gweld yr wybodaeth hon. Nid yw hyn yn diwallu maen prawf 2.2 llwyddiant 1.1.1 WCAG (Cynnwys Di-destun) na 1.4.5 (Delweddau o Destun).

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi trosglwyddo’r problemau hygyrchedd hysbys a nodwyd ar y sgriniau mewngofnodi SSO (mewngofnodi unwaith) i'r tîm perthnasol sy'n berchen ar y tudalennau hynny ac yn parhau i olrhain cynnydd ar hyn.

Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi’n barhaus drwy ddefnyddio profion hygyrchedd awtomatig a gwiriadau technoleg gynorthwyol. Bydd unrhyw nodweddion newydd a gyflwynir hefyd yn cael eu profi’n fewnol neu gyda chefnogaeth y tim profi hygyrchedd GLlTEF mewnol.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 14 Medi 2021. Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Tachwedd 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 11 Medi 2025. Cynhaliwyd yr archwiliad gan dîm profi hygyrchedd mewnol GLlTEF. Roedd y tim wedi profi yn erbyn ystod o dechnolegau cynorthwyol ac adnoddau profi hygyrchedd.